Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 25 Mai 2017

Amser: 09.00 - 10.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4211


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

John Griffiths AC (Cadeirydd)

David Melding AC (yn lle Janet Finch-Saunders AC)

Siân Gwenllian AC

Bethan Jenkins AC

Jeremy Miles AC (yn lle Rhianon Passmore AC)

Jenny Rathbone AC

Huw Irranca-Davies AC (yn lle Joyce Watson AC)

Tystion:

Carl Sargeant AC

John G Rees, Llywodraeth Cymru

Katie Wilson, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Naomi Stocks (Clerc)

Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc)

Chloe Davies (Dirprwy Glerc)

Jonathan Baxter (Ymchwilydd)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Janet Finch-Saunders AC, Rhianon Passmore AC, Joyce Watson AC a Gareth Bennett AC. Roedd David Melding AC, Jeremy Miles AC, Huw Irranca-Davies AC yn dirprwyo ar ran Janet, Rhianon a Joyce yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

</AI2>

<AI3>

2       Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): sesiwn dystiolaeth 7 - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

2.1.    Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

·         John G Rees, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru

·         Katie Wilson, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

2.2. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ddarparu:

·         nifer yr eiddo y mae'n debygol y bydd y cyfyngiadau arfaethedig ar anheddau sy'n cael eu gosod o'r newydd yn effeithio arnynt, a

·         manylion y broses ymgynghori a gynhaliwyd ynghylch diddymu cyn cyflwyno'r Bil.

</AI3>

<AI4>

3       Papurau i’w nodi

</AI4>

<AI5>

3.1   Gohebiaeth gan Brif Weinidog Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog mewn perthynas â thlodi

3.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog mewn perthynas â thlodi.

</AI5>

<AI6>

3.2   Llythyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn perthynas â’r Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

</AI6>

<AI7>

3.3   Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â’r Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru)

4.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).

</AI7>

<AI8>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI8>

<AI9>

5       Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): trafod y materion allweddol

5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol ar gyfer Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) i lywio ei adroddiad drafft a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant am y materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

</AI9>

<AI10>

5.1   Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): Ymatebion i’r ymgynghoriad

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>